Llangrannog
Pentre a dyfodd o gwmpas yr eglwys a
sefydlwyd yn oes y seintiau er fod Celtaid cynnar ar Bendinas Lochtyn.
Datblygoedd y pentref gyda thwf mansach y môr. Adeiladwyd 24 llong ger y
traeth a lan at 1914 morwyr oedd y rhan fwyaf o drigolion y pentref.
Erbyn heddiw pentre ymelwyr a mwynhad lan y môr yw'r atyniad mwyaf. Mae
croeso i bawb yn Llangrannog a'r ardal mewn gwaith a hamdden a gobeithio
y bydd pawb yn maenteisio ar yr amryw gyflesterau.
Eglwys Sant Carannog .
Adeiliadwyd yn wreiddiol o bren tua 500oc gan y Sant a fu hefyd yn
Crantock, Carhampton, Gwlad yr haf, Cernyw a Carantec yn Llydaw. Mae'r
adeiliad presennol yn dyddio o 1885, ond mae creiriau ynddo wedi eu
gasglu er dyddiau'r Normaniaid. Mae bedd Cranogwen yn y fynwent ar yr
ochr ogleddol uwchben yr eglwys.
Hanes Sant Carannog
Ffynon Fair.
Mae'r ffynnon yma mor hen â'r pentref ei hun, ac roedd yn gyrchfan i
bererinion, a ddeuai i flasu ac i gymrud y dwr llesol.
Y Gerwn.
Rheadr drawiadol a gwerth ei gweld. Fe ddefnyddiwyd cwymp y dwr i redeg
ffatri wlân ychydig lathenni islaw. Mae enghrefftiau o gynnyrch Y Ffatri
(sydd mewn dwylo preifat heddiw) yn yr Amgueddfa Wlân yn Drefach.
Carreg Bica.
Rhwng y ddau draeth
saif dant y Cawr Bica, y dant a boerodd allan ar ôl dioddef o'r danoedd.
Dyna'r chwedl !. Mewn gwirionedd stac yw Carreg Bica a cheir nifer
o rhain ar hyd yr yfordir. Diflanodd darn mawr o Garreg Bica ychydig o
flynyddoedd yn ôl.
|