Cyhoeddiad gan Pwyllgor Lles Llangrannog
Pentre bach yw
Llangrannog ond mae llawer yn digwydd ynddo, ac mae trigolion y pentref
yn ceisio gofalu am fuddiannau ei gilydd. Erbyn hyn mae sawl sefydliad a
chlwb sy'n hybu lles y pentref yn gyffredinol neu'n canolbwyntio ar
dargedau penodol, a gobeithir y bydd y Cylchlythyr hwn yn tynnu sylw at
ei hamcenion ac at beth maent wedi gyflawni.
Y Pwyllgor Lles
Mae'r Pwyllgor Lles yn dal
i fynd yn dda, ar ôl rhyw 60 mlynedd, ac yn y blynyddoedd diwethaf y mae
wedi ysgodi dechrau dau bwyllgor, sef Pwyllgor y Tân Gwyllt, Phwyllgor
y Milenniwm y disgrifir eu gwaith nes
ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o'r
pentrefwyr yn gwybod am y pethau amlwg y mae'r Pwyllgor Lles yn eu
gwneud, megis gofalu am erddi'r pentref, trefnu gweithgareddau ar y
traeth ac mewn lleoliadau eraill, trefnu cyfarfodydd cyhoeddus pan fydd
materion pwysig i'w trafod, a chefnogi sefydliadau eraill yn y pentref.
Ond mae'r pwyllgor yn gwneud gwaith y tu ôl i'r llenni hefyd, yn enwedig
trwy bwyso ar gynghorau lleol a chymniau gwasanaethau cyhoeddus er ein
lles ni.
Cronfa'r Mileniwm - Prosiect Sant
Crannog
Sefydlwyd y gronfa er mwyn
arian ar gyfer prosiect i annog y gymuned i ddathlu ei hanes a'i
diwylliant . Erbyn hyn y mae £16,000 yn y gronfa , a gobeithiwn y bydd
Cyngor Ceredigion yn cytuno i'n cais am arian cyfatebol, ac wedyn bydd y
prosiect yn dechrau. Bydd y prosiect yn cynnwys creu ardal eistedd o
lechfaen mewn hanner cylch. Y tu mewn i hon bydd mosaic crwn yn dangos
hanes a thraddodiadau'n pentref, a bydd cerflun maint llawn o 'sant
Crannog yn y canol. Yn y diwedd, bydd y prosiect yn ganolbwynt taith
gerdded gron gyda mynegbyst o gwmpas y pentref.
Tân Gwyllt
Diolch yn fawr i Bwyllgor
y Tân Gwyllt - bu'r sioe y llynedd yn well nag erioed. Mae llwyddiant y
noson yn dibynnu ar lawer iawn o bobol yn y pentref: pobl sy'n codi
arian, rheoli'r traffig, adeiladu'r tân, cynllunio'r sioe, tanio'r tân
gwyllt, clirio ar ei hôl, sicrhau diogelwch, cyfansoddi a recordio'r
gerddoriaeth i'r sioe, a chant a mul o pethau eraill. Ymdrech gymunedol
go iawn yw hon, ac mae'n headdu unrhyw gefnogaeth gallwn ei rhoi.
Canolfan Gymunedol Newydd?
Canolfan Crannog
Araf iawn yw'r symud wedi
bod ar drosglwyddo Capel Crannog i eiddo'r elusen newydd Canolfan
Crannog. Pan fydd newyddion pellach ar hwn bydd rhaid cynnal cyfarfod
cyhoeddus er mwyn cael cynllunio ymhellach.
Côr Cymunedol Llangrannog
Mae gan bawb y gallu i
ganu a'r hawl i ganu: cewch y cyfle gyda'r côr. Nid oes angen clyweliad,
neu medru darllen nodiant t ymuno â'r Côr.
Rydym yn gweithio gyda pob
llais a dysgir y caneuon (sy'n dod o gerddoriaeth glasurol, werin a'r
byd) trwy'u canu gan athrawes gymwysedig gefnogol a brwdfrydig, Lou
Laurens, Rydym yn perfformio'n lleol a hefyd yn ymuno â chorau eraill ar
gyfer digwyddiadau cenadlaethol megis 'The Traveller' Karl Jenkins, a
berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2004. Eleni, gobeithir 'Canu am Ddwr'
mewn perfformiad â llu o gorau eraill ar y 'South Bank' yn Llundain.
Celf Crannog
Cynhaliwyd arddangodfa
lwyddianus yn y 'Patio' yn ddiweddar, gyda'r artistiaid Stan Williams
(Rhydlewis) a Bob Blaney (Pontsian) yn arddangos. Er nad oedd y
gwerthiant gymaint â'r gobaith, roedd y lluniau yn weidd i'r llygaid. Yr
arddangosfa nesaf by Sioe Awst yn y 'Pentre Arms' fel arfer, gobeithio.
ysgol fach gelf
Dechreir y flwyddyn newydd
gan fyfyrwyr yr 'ysgol fach gelf' gyda phrosict ar 'Bywyd y Môr'. Wedi'i
gomisiynu gan Afordir a Chefn Gwlad Ceredigion, bydd y plant yn
cynllunio a chreu 6 phanel ceramig gwydredig a geith eu gosod yn y
pentef.
Nes ymlaen yn y flwyddyn
dechrewn brosiect ffotograffiaeth a ffilm wedi'i seilio ar ein hanes
lleol a llên werin. Edrychwn ymlaen at weithio law yn llaw â phobl leol
i ddatblygu'r cynllun yn ystod y flwyddyn.
Aelwyd Hawen
Clwb ar gyfer pobl ifanc
yw Aelwyd Hawen lle byddiant yn cael i wneud amrhyw o weithgareddau trwy
gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cwrdd ar nos Wener yn Neuadd Goffa
Pontgarreg rhwng 6.30 a 8.00yh. Rydy'm yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n
medru dod i arddangos gwahanol sgiliau ac i rhannu eu profiadau gyda'r
bobl ifanc.
Tafarnau, tai bwyta a Siop
Y mae'r rhain yn hanfodol
i ffyniant y pentref, ac maent i gyd yn gwneud llawer mwy na chyflawnu
eu rôl fasnachol.
Mae'r Pentre
Arms yn
cynnig lle i gwrdd ar ôl y gêm i holl dîmau peldroed y pentref, ac mae'r
tafarn yn rhedeg tîmau pwl a dartiau. Mae rhagor o wybodaeth am y tîmau
peldroed nes ymlaen yn y Cylchlythyr, a cheir gwybodaeth am y tîmau pwl
a dartiau gan y Pentre Arms.
Mae'r ddau gaffi yn
chwarae rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol y pentref. Mae'r Caban wedi
croesawu sawl achlysyr i'r Pwyllgor Lles, gan gynnwys bore coffi i godi
arian at Ofal Canser Macmillan. Yn ddiweddar, maent wedi dechrau clwb
coffi bywiog bore dydd Gwener - gweler manylion ymlaen. Ar yr ochr arall
i'r afon, mae'r Patio hefyd
yn fan gwrdd boblogaidd i bob leol yn ogystal ag ymwelwyr, ac mae wedi
croesawu llawer Arddangosfeydd Celf, a gobeithir y bydd y rhain yn
parhau.
Mae Siop
y Pentref yn
aros yn agor trwy gydol misoedd tawel y Gaeaf yn ogystal ac yn ystod
tymor prysur yr Haf, sy'n wasanaeth aruthrol i'r gymuned. Gadewir
negeseuon yn y siop, cesglir allweddi yno gan ymelwyr, codir arian at
elusennau lleol a chenedlaethol, ac a dweud y gwir mae'r siop yn
ganolbwynt i'r gymuned.
Clwb Peldroed Crannog
Mae'r clwb yn cael tymor
llwyddianus iawn eleni eto, gyda'r tîm cyntaf yn anelu at ennill a
chadw'r tlysiau enillwydd y llynedd yn y cwpannau a'r cynghair. Mae'r
ail dîm, a thîm y merched yn chwarae'n dda, gyda'r merched yn enwedig yn
gobeithio ennill gwobrau ar ddiwedd y tymor... Mae'r tîmau iau yn
mwynhau rhaglen lawn o gêmau, ac yn dangos brwdfrydedd mawr yn eu
chwarae. Yn ddiweddar mae'r dynion wedi dechrau tîm dros 40, a lwyddodd,
o drwych blewyn, i ennill dros y Merched mewn gêm elusennol adeg y
Nadolig.
Un broblem fawr sy gan y
clwb eleni yw cyflwr Cae'r Neuadd, ac mae hwnnw'n peri gofid. Mae'r clwb
yn chwilio am gae arall i chwarae dros dro, hys nes bydd Cae'r Neuadd
wedi'i addasu neu gae Gwersyll yr Urdd yn barod eto.
Clwb Coffi
Mae boreau Gwener wedi'u
gweddnewid yn y Caban gaeaf hwn. Mae boreau coffi yn rhoi cyfle i bobl
leol ddod at ei gilydd i fwynhau coffi a cheisio amryw o weithgareddau.
O gelf a chrefft i gerddoriaeth a choginio, 'dyn ni'n ceisio rhywbeth
gwahanol bob wythnos dan arweniad aelodau'r grwp. Bu'r cacennau Nadolig
a'r torchau celyn yn llwyddiant mawr... tra bod y darlunio â golosgyn yn
ddigri tu hwnt, a'r 'papier mache' yn
anniben! Disgwyliwch gigs yn y dyfodol, gan fod Jerry, ein gwrw
cerddorol lleol, wedi cytuno i ddysgu elfennau'r gitar i ni, a gyda'r
gwersi dyfrliw yn mynd yn eu blaen efallai byddwn ni'n arddangos
campweithiau erbyn yr haf!
Hefyd 'dyn ni'n trefnu
teithiau cerdded bob mis er mwyn cefnogi aelodau o'r grwp a fydd yn
cymryd rhan yn y daith gerdded golau lleuad yn Llundain ym mis Mehefin,
sef taith 27 milltir dros nos o gwmpas llwybr Marathon Llundain i godi
arian at Gymorth Canser. Mwy o fanylion cyn bo hir....
Cylch Ti a Fi
Cylch ar gyfer
rhieni/gwarchodwyr a'u plant o'r cud at oed ysgol yw Cylch Ti a Fi.
Rydym yn falch o gynnig cyfle i chi i rannu profiadau, chwarae gyda'ch
plentyn a chymdeithasu gyda rhieni a gwarchodwyr eraill. Rydym yn cwrdd
ar fore dydd Mawrth yn Neuadd Goffa Pontgarreg rhwng 9.00 a 11.30yb.
Cylch Meithrin Pontgarreg
Mae'r Cylch Meithrin ar
gyfer plant 2 flwydd oed hyd nes y byddant yn mynd i'r ysgol. Mae'r
gweithgareddau'n cael eu trefnu ar gyfer y plant gan arweinydd y cylch
a'r cynorthwy-ydd. Cynigir amrhyw o brofiadau dysgu i'r plant drwy'r
cyfleoedd a gânt i chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae'n
sylfaen delfrydol i blant o gartrefi Cymraeg a Saesneg cyn iddynt fynd
i'r ysgol.
Croesewir plant ag
anghenion arbennig i'r Cylch: bydd yr holl weithgareddau ar gael iddynt,
a threfnir person ychwanegol i'w cyfnogi os oes angen.
Mae'r cylch yn cwrdd ar
fore Llun a Marcher yn Neuadd Goffa Pontgarreg rhwng 9.00 a 11.00
Eglwys Sant Carannog
Fel un o'r eglwysi o fewn
grwp o bedwar, gan gynnwys hefyd eglwysi Penbryn, Llandisiliogogo a
Blaencelyn, cawsom ddathliad cofiadwy o'r Nadolig, gyda dathliad o eni
lesu gan blant y'r Ysgol Sul â'u portread o stori Babwshca, ac yna
luniaeth hwylus yn y Neuadd dan gymorth aelodau y Pwyllgor Lles. Hefyd
cynhaliwyd dathliad arbennig o hen wyl Plygain yn Eglwys Mihangel Sant,
Penbryn gydag aelodau Cymdeithas Ceredigion. Diolch i bawb am eich
cefnogaeth.
Oddi ar ddechrau'r
flwyddyn, rydym wedi ymdrechu i adfer gwasanaeth arferol y Sul: y mae
'nawr wedi'i osod yn gyfyng am 11.00yb, ac mae'n datblygu'n ymdrech go
lwyddianus. Yn ddiweddar., cafwyd gwasanaeth undebol â'n gilydd ym
Mlaencelyn ac yna pryd o fwyd yng ngwesty New Inn, yn foddhad i bawb.
Byddwn yn y dyfodol yn ymdrechu ymledu cysylltiadau ehangach yn y
dyfodol.
Gwersyll yr Urdd
Mae Gwersyll yr Urdd
Llangrannog yn rhan annatod o fywyd beunyddiol Llangrannog a'r cylch ers
1932. Gobeithiwn fod y gyflogaeth cyfleusterau, ac incwm ychwanegol sy'n
cael ei greu gan y Gwersyll yn hwb i'r economi a'r diwylliant leol.
Mae'r datblygiadau diweddar yn sicrhau fod gennym gyflasterau o'r radd
flaenaf yng nghefn gwlad Cymru ac anogwn bob un i fanteisio ar yr hyn
sydd gan y Gwersyll i'w gynnig:
-
Canolfan Hamdden Syr
Ifan: Mae'r ganolfan
newydd yn gartref i amryw glwb ar hyd y flwyddyn. Yn ogystal, hyderwn
i Ystafell ffitrwydd gael ei agor cyn hir. Os hoffech weld clwb neu
weithgaredd arbennig yn cael ei gynnig, cysylltwch a'r Gwersyll.
-
Llethr Sgïo: Mae'r
llethr Sgïo ar agor i'r cyhoedd bob dydd Llun i ddydd Iau o 5.00 tan
9.00 yh ac ar ddydd Sul o 2.00 tan 5.00 yp.
-
Nofio: Mae'r
pwll ar agor i'r cyhoedd bob nos Iau o 5.00 tan 6.30yh a 6.30 tan
8.00yh, yn ogystal â bore dydd Llun, Mercher a Gwener o 9.00 -
10.30yb.
-
Partïon a chyfarfodydd: Cynigwn
becynnau arbennig ar gyfer partïon a chyfarfodydd. Mae'r Canolfan yn
gartref i gwrs Celf ar hyn o bryd.
Clwb Cychod a Physgota Llangrannog
Bu'n flwyddyn brysur i'r
clwb, gyda sawl gweithgaredd i godi arian er mwyn talu am dractor
newydd, ei gynnal, yswriant a.y.b. Bu dau farbiciw ar y traeth a
threfnwyd cystladaethau pysgota - diolch o galon i'r cymniau lleol a
noddodd y digwyddiadau. Cafwyd digon o hwyl a sbri gyda'r cystadlaethau
pysgota, o leia!
Mae pwyllgor y clwb yn
cwrdd ar y Sul olaf ym mhob mis yn y Pentre Arms am 2yp. Os hofffech
ymuno â'r clwb neu ddefnyddio'r llithfra, dewch i un o'n cyfarfodydd i
gael mwy o wybodaeth.
Mae menywod lleol â
diddordeb mewn ail-ffurfio tîm y cychod hir. Ar hyn o bryd maent yn
casglu gwybodaeth ac yn meddwl am y ffordd ymlaen.
Dosbarthiadau Cymraeg
Cynhelir dosbarthiadau
Cymraeg bob dydd Mawrth yn ystod y tymor yn Festri'r Eglwys yn
Llangrannog. Mae grwp blwyddyn gyntaf am 11.30 - 1.00, a grwp ail
flwyddyn am 10 - 11.30yb. Gall dysgwyr ymuno â'r grwpiau unrhyw adeg.
Mae cyrsiau eraill ar gael y lleol hefyd - gyda'r amser, y lleoliad, y
cyflymder a'r lefel yn amrywio.
Grwp Cyd
Grwp sy'n rhoi cyfle i
ddysgwyr Cymraeg o bob lefel i Gwrdd i ymarfer eu Cymraeg, gyda
siaradwyr Cymraeg mewn awyrgylch cefnogol. Rydym yn cwrdd y nos Fercher
gyntaf a'r 3edd nos Fercher o bob mis yn y Ship. Mae croeso cynnes i
ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Cymdeithas yr Iaith
Grwp sy'n ymgyrchu dros yr
iaith, sy'n cwrdd yn y Pentre Arms o leia unwaith y mis.
Merched y Wawr
Y mae Merched y Wawr Bro
Cranogwen yn cwrdd un neu ddwywaith y mis rhwng Medi a Iau yn Neuadd
Goffa Pontgarreg. Yn ogystal â'n cyfarfodydd gyda siaradwyr gwâdd, yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf buom ar ymweliadau i ddrama, opera,
pantomeim, cinio Nadolig a Gwyl Dewi, a gwnaethom gynnal noson i
ddysgwyr a chyngerdd. Croeso cynnes i aelodau newydd.
Dros Chwedeg
Mae'r grwp ay gyfer y
'dros 60' yn cwrdd ar y dydd Mercher cyntaf o bob mis o 2yp ymlaen yn
Neuadd Goffa Pontgarreg. Fel arfer bydd siaradwyr gwâdd a chyflwynir
ystod eang o bynciau. Croeso cynnes i aelodau newydd.
Sefydliad y Merched Pontgarreg
Mae Sefydliad y Merched yn
cwrdd ar dydd Iau cyntaf a'r 3ydd dydd Iau o bob mis am 7.30yh yn Neuadd
Goffa Pontgarreg, gyda siaradwr gwâdd unwaith y mis fel arfer. Mae
croeso cynnes i aelodau newydd.
Bowlio Mat Byr
Mae'r grwp yn cwrdd bob
prynhawn dydd Mawrth o 2yp ymlaen yn Neuadd Goffa Pontgarreg (ac eithrio
hanner tymor yr ysgolion a rhai dyddiadau yn ystod gwyliau'r haf), ac yn
chwarae ambell i gêm gyfeillgar gyda grwpiau eraill. Croeso i aelodau
newydd.
Clwb Marchogaeth Dyffryn Clettwr
Clwb ar gyfer marchogion
brwdfrydig, i gael hwyl a gweithgareddau cymdeithasol sy'n ymwneud â
cheffyalau. Ralïau wythnosol yn ardal Llangrannog.
|